Mae’r Arglwydd Hain wedi amddiffyn ei benderfyniad i gyhoeddi enw Syr Philip Green yn Nhy’r Arglwyddi wrth i’r dyn busnes wynebu honiadau o aflonyddwch rhywiol a hiliol.

Dywedodd y cyn-weinidog Llafur wrth raglen Newsnight ar BBC 2 ei fod wedi cael “cefnogaeth sylweddol – yn enwedig gan ferched.”

Ond mae Syr Philip Green wedi gwadu’n chwyrn unrhyw “ymddygiad rhywiol neu hiliol anghyfreithlon” mewn datganiad a ddaeth ar ôl i’w enw gael ei gyhoeddi.

Roedd yr Arglwydd Hain wedi defnyddio braint seneddol i gyhoeddi enw’r dyn busnes ar ôl i’r Llys Apêl atal The Daily Telegraph rhag cyhoeddi “gwybodaeth gyfrinachol” gan bum aelod o staff yn ymwneud a “dyn busnes amlwg”.

Roedd y papur eisiau datgelu’r hyn maen nhw’n ei alw yn “aflonyddwch rhywiol a cham-drin hiliol honedig tuag at staff” sydd wedi cael eu hatal rhag trafod yr honiadau oherwydd cytundebau NDA (non-disclosure agreements).

Dywedodd yr Arglwydd Hain bod rhywun sydd a “chysylltiad agos” a’r achos wedi cysylltu gydag o a’i fod yn teimlo ei fod yn ddyletswydd arno i ddefnyddio braint seneddol i gyhoeddi enw Syr Philip Green.

Serch hynny, mae nifer wedi ei feirniadu am gyhoeddi enw Syr Philip Green. Dywedodd y bargyfreithiwr Winston Roddick QC ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore ma ei fod yn “warthus” bod yr Arglwydd Hain wedi gwneud hynny.

Mae’r dyn busnes yn berchen ar siopau  Topshop, Topman, Wallis, Evans, Burton, Miss Selfridge, Dorothy Perkins ac Outfit.