Mae dyn 19 oed wedi gwadu llofruddio pensiynwr a fu farw dair wythnos wedi diodde’ ymosodiad yn ei gartref.

Mae Jason Wilsher wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Birmingham trwy gyswllt fideo, ac wedi pledio yn ddieuog i ladd Arthur Gumbley, 87.

Mae Jason Wilsher, o Bagworth, Swydd Gaerlyr, wedi cael ei gadw yn y ddalfa wedi’r gwrandawiad deng munud, ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ar Fawrth 4, 2019.

Bu farw Arthur Gumbley yn yr ysbyty ar Ragfyr 12, 2017, ar ôl cael ei anafu yn ei gartref yn Sutton Coldfield, ar Dachwedd 21.