Mae arweinydd yr EDL (English Defence League), Tommy Robinson yn “unigolyn ffiaidd, atgas ac anghynnes”, yn ôl Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, sydd wedi beirniadu’r gwahoddiad iddo giniawa yn San Steffan.

Daw ei sylwadau ar ôl i luniau ddod i’r golwg sy’n dangos yr arweinydd asgell dde eithafol yn cael cinio yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl gwrandawiad i gyhuddiadau o ddirmyg llys gyda’r Twrnai Cyffredinol ddydd Mawrth.

Cafodd y mater ei grybwyll gan Aelod Seneddol yr SNP, Stewart McDonald, oedd wedi gofyn i John Bercow drosglwyddo’r mater yn dilyn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Dywedodd Stewart McDonald fod Tommy Robinson yn “golbiwr treisgar a hiliol, a thwyllwr”, ac na ddylai gael yr hawl i “gerdded yn ein plith ar ystâd y senedd” am iddo “groesi’r llinell” o ran ei ymddygiad.

Ymateb John Bercow

Wrth ymateb, dywedodd John Bercow ei fod yn cydweld â disgrifiad Stewart McDonald o Tommy Robinson.

Ond ychwanegodd fod gwahoddiadau i ginio yn San Steffan “y tu hwnt” i’w gyfrifoldebau fel Llefarydd ac mai “mater i rywle arall” yw hwn, ac y dylai godi’r mater gyda Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi.

Y cinio

Dywedodd gohebydd erthygl yn y Sun fod Tommy Robinson wedi cael cinio tri chwrs gyda’r Arglwydd Pearson (UKIP) ddydd Mawrth.

Ond fe wadodd Tommy Robinson fod y cinio’n un meddwol, gan ychwanegu ar ei dudalen Instagram ei fod yn “yfed dŵr”.

Dywedodd arweinydd UKIP, Gerard Batten fod y Sun yn dweud “celwyddau” ac y dylai’r cyfryngau ganolbwyntio ar “ddweud y gwir fod y barnwr wedi gollwng yr achos fel bricsen boeth pan ddarllenodd e ddatganiad Tommy”.

Cafwyd Tommy Robinson yn ddieuog yn Llys y Goron Leeds o ddirmyg llys ym mis Awst a’i ryddhau o’r carchar.

Ond fe allai gael ei garcharu eto pe bai’r llys yn ei gael yn euog o ffilmio pobol y tu allan i lys yn Leeds mewn perthynas ag achos o droseddau rhyw yn Huddersfield. Mae’n gwadu’r cyhuddiad hwnnw, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Mawrth cyn y cinio.