Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn wynebu rhai o’i beirniaid ddydd Mercher, wrth i Bwyllgor 1922 gyfarfod i drafod ei chynlluniau Brexit.

Erbyn hyn, mae 50 o Geidwadwyr yn gwrthwynebu cynllun ‘Chequers’ er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar drothwy’r cyfarfod, awgrymodd un o’i gwrthwynebwyr y dylai Theresa May “ddod â’i rhaff ei hun” i’r cyfarfod.

Rhag ofn na fydd cytundeb yn y pen draw, mae Theresa May yn paratoi i sicrhau bod cyflenwadau bwyd a meddyginiaethau ar gael o’r cyfandir.

Ac mae papurau a gafodd eu rhyddhau i bapur newydd y Times yn awgrymu y gallai’r cyfnod trosglwyddo cyn cwblhau proses Brexit gael ei ymestyn – hyd at rai blynyddoedd, o bosib. Fe allai’r cyfnod hwnnw gael ei addasu’n flynyddol yn ôl yr angen, meddai’r papur.

Mae ymestyn y cyfnod trosglwyddo, sydd i fod i ddod i ben yn 2020, wedi cael ei awgrymu er mwyn datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon. Ond mae Theresa May yn awyddus i sicrhau na fydd y cyfnod hwnnw’n ymestyn y tu hwnt i ychydig fisoedd.

Ymateb Downing Street

Wrth ymateb i’r wybodaeth yn y ddogfen a gafodd ei chyhoeddi gan y papur, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street ei fod yn “adlewyrchu’n rhannol y cyngor i weinidogion, ac nid o’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud”.

Wrth ategu sylwadau Theresa May ddydd Llun, ychwanegodd y llefarydd “nad yw estyniad i’r cyfnod cyflwyno’n angenrheidiol”, ac na fyddai Llywodraeth Prydain yn derbyn sefyllfa lle byddai’n “cael ei chloi i mewn i drefniant amgen ac israddol yn erbyn ei hewyllys”.

Gwrthwynebiad i Theresa May

Ar drothwy’r cyfarfod, mae awgrym fod hyd at 48 o aelodau seneddol Ceidwadol wedi galw am symud Theresa May o’i swydd.

Byddai cyrraedd y ffigwr hwnnw’n swyddogol yn golygu cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Prydain.

Mae ymgyrchwyr o’r enw Stand Up 4 Brexit wedi honni bod ganddyn nhw 50 o gefnogwyr bellach – ac yn eu plith mae Boris Johnson a Syr Edward Leigh.

‘Cyhoeddi rhyfel yn ein herbyn ni ein hunain’

Mae cynlluniau Theresa May wedi cael eu beirniadu gan yr aelod seneddol Llafur, David Lammy, oedd yn cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fod “Brexit wedi dod fel cyhoeddiad rhyfel yn ein herbyn ni ein hunain”.

“Bydd llongau argyfwng yn cael eu galw am fwyd a meddyginiaeth os ydyn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Ond o leiaf y byddwn ni wedi cymryd rheolaeth yn ôl pan fyddwn ni’n defnyddio llyfrau dogn ac yn rhedeg allan o gyffuriau.”