Mae blaen siop wedi cael ei chwythu i ffwrdd yn ystod lladrad yn Derby heddiw (dydd Llun, Hydref 22).

Roedd lladron wedi ceisio dwyn peiriant arian o Swyddfa’r Post yn ardal Spondon, ond fe gafodd yr heddlu eu galw wedi i bobol leol glywed ffrwydrad tua 4.45yb.

Roedd rwbel, yn cynnwys drws ffrynt y siop, wedi cael eu taflu ar draws y lôn gan rym y ffrwydrad, ac fe gafodd y peiriant pres ei daflu tua troedfedd.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, meddai’r heddlu.