Mae cwmni teithiau awyr Ryanair wedi cael ei feirniadu am fethu ag ymateb i ddigwyddiad hiliol ar awyren.

Cafodd dyn aros ar awyren ar ôl sarhau dynes groenddu’n hiliol oedd yn eistedd yn y sedd nesaf ato.

Cafodd y dyn ei ffilmio yn anelu sylwadau hiliol ati yn ystod y daith, gan gynnwys sylwadau am liw ei chroen a’i hiaith, ac yn ddiweddarach am ei hanabledd.

Yn ystod y ffrae, fe wnaeth y dyn fygwth “gwthio” y ddynes i sedd arall.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o Barcelona i Stansted.

Doedd staff yr awyren ddim wedi ymateb i’r digwyddiad ar y pryd, ac fe fu’n rhaid i deithwyr eraill ymyrryd yn y ffrae rhyngddo fe, y ddynes a’i merch.

Mae nifer o wleidyddion ymhlith y rhai fu’n beirniadu diffyg ymateb Ryanair, sydd bellach wedi adrodd am y digwyddiad wrth Heddlu Essex.