Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, Gavin Williamson yw’r aelod diweddaraf o Lywodraeth Prydain i ddweud bod cytundeb Brexit yn bosib o hyd.

Dywedodd ei fod yn ffyddiog y gallai’r Prif Weinidog Theresa May ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd wrth y Press Association fod y llywodraeth wedi bod yn “eithriadol o synhwyrol a rhesymol” wrth gynnal y trafodaethau.

“Dw i’n credu ei bod yn bryd i’r Undeb Ewropeaidd allu dangos rhyw lefel o synnwyr da, a bod yn rhesymol hefyd,” meddai, gan ychwanegu bod Llywodraeth Prydain “wedi dod yn ei blaen gyda llawer o awgrymiadau positif dros ben”.

Cynnydd

Yn ôl y gweinidog Brexit Suella Braverman, mae Llywodraeth Prydain yn gwneud cynnydd da yn y trafodaethau.

“Dydy hi ddim yn amser poeni, mae’n amser pwyllo a chanolbwyntio ar y nod yr ydyn ni i gyd yn barod i’w sicrhau,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

Serch hynny, dywedodd y gallai Prydain ymdopi’n iawn heb gytundeb, ac na fyddai’n “drychineb”.