Mae rhieni yn gweithio diwrnod yn fwy yr wythnos o gymharu â gweddill y boblogaeth, yn ôl astudiaeth newydd.

Yn ôl ymchwilwyr, mae’r amser sy’n cael ei dreulio yn paratoi plant ar gyfer ysgol – ac yn cwblhau tasgau o gwmpas y tŷ yn y bore – yn gyfystyr â diwrnod ychwanegol o waith.

Mae’r gwaith ymchwil yn dangos bod rhieni yn cwblhau 43 o dasgau ar gyfartaledd cyn cyrraedd y swyddfa. Mae’r rheiny’n cynnwys smwddio, paratoi bwyd a chludo eu plant i’r ysgol.

O’r 2,000 o rieni a gafodd eu holi roedd y rhan fwyaf yn teimlo eu bod wedi gwneud gwerth diwrnod o waith erbyn 11 y bore.

Gwaith

“Mae’r gwaith yn dechrau i rieni’r eiliad y maen nhw’n codi,” meddai llefarydd ar ran Kellogg’s, y cwmni a gynhaliodd yr astudiaeth.

“Maen nhw’n gweithio am ddiwrnod ychwanegol, yn ogystal â chwblhau wythnos o waith naw tan bump.”