Theresa May wedi ei beirniadu’n hall

Mae Theresa May wedi awgrymu y gallai’r cyfnod trosglwyddo yn sgil Brexit gael ei ymestyn gan “rhai misoedd”.

Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019, a’n dilyn hynny mi fydd yna gyfnod lle fydd rheolau’r cyfandir yn parhau mewn grym ym Mhrydain.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r ‘cyfnod trosglwyddo’  hwnnw ddod i ben ar Ragfyr 2020, ond bellach mae’r Prif Weinidog wedi dweud y gallai bara’n hirach.

Byddai ymestyniad yn rhoi cyfle i’r Deyrnas Unedig ac Ewrop geisio dod i gytundeb tros ffin Iwerddon a’n rhwystro ffin galed yno, am y tro.

Ond, mae cyhoeddiad diweddaraf Theresa May wedi gwylltio sawl aelod o’i phlaid ei hun, gan gynnwys yr aelodau cabinet Michael Gove a Mordaunt, a’r Aelod Seneddol, Jacob Rees-Mogg.

Rheolau

“Mae cyfnod trosglwyddo hirach yn golygu ein bod yn yr Undeb Ewropeaidd am gyfnod hirach,” meddai Jacob Rees-Mogg.

“Yn ystod y cyfnod yna bydd yr Undeb Ewropeaidd yn medru creu rheolau ar gyfer y Deyrnas Unedig, ond fyddwn ni methu a dylanwadu arnyn nhw, a byddwn yn talu am y fraint.

“Does dim ffynhonnell ddiwedd o arian gan y Llywodraeth. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau.”