Theresa May yn “barod i ystyried” yr opsiw

Mae Theresa May wedi derbyn rhagor o feirniadaeth ar ôl iddi awgrymu ei bod am weld y trafodaethau tros Brexit yn parhau am flwyddyn ychwanegol.

Dywedodd y Prif Weinidog mewn cyfarfod o Gyngor yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ddoe ei bod yn “barod i ystyried” gofyn am ymestyniad i Erthygl 50.

Pe bai’r cais hwn yn cael ei ganiatáu, bydd gwledydd Prydain yn parhau’n rhan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau am hyd at dair blynedd wedi Mawrth 29, pryd mae disgwyl i Brexit ddigwydd.

Bydd yr ymestyniad hwn, meddai Theresa May, yn rhoi mwy o amser i Lywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ddatrys y broblem sy’n bodoli ynghylch y ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Ymhlith y rheiny sy’n feirniadol o’r awgrym hwn gan y Prif Weinidog mae cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, sy’n dweud y gall ymestyn y cyfnod trafodaethau olygu “na fyddwn ni’n gadael o gwbwl”.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Nadine Dorries, yn galw wedyn ar David Davis, y cyn-Weinidog Brexit, i gymryd lle Theresa May yn Brif Weinidog.

Mae hefyd yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Prydain yn barod i wario biliynau yn fwy o arian i’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr ymestyniad.