Mae protestwyr gwrth-ffracio, a gafodd eu carcharu am fod yn ‘niwsans cyhoeddus’, wedi cael eu rhyddhau gan y Llys Apêl.

Roedd y gwyddonydd Simon Blevins, 26, o Sheffield, a’r athro, Richard Roberts, 36, o Lundain ill dau wedi derbyn dedfryd o 16 mis yn y carchar, tra bo’r trydydd, sef y trwsiwr piano, Rich Louzou, 31, o Ddyfnaint, wedi derbyn 15 mis.

Cafodd y tri eu dedfrydu yn Llys y Goron Preston ym mis Medi ar drosedd o fod yn ‘niwsans cyhoeddus’, ond mae’r Llys Apêl bellach wedi gwyrdroi’r penderfyniad hwnnw.

Roedd y tri wedi dringo lorïau yn ystod protest y tu allan i safle ffracio’r cwmni Cuadrilla yn Little Plumton, Swydd Gaerhirfryn, ym mis Gorffennaf eleni.

Y tri yw’r protestwyr amgylcheddol cyntaf i gael eu carcharu yng ngwledydd Prydain ers 1932.

Yn y Llys Apêl, dywedodd y barnwr fod dedfrydau’r tri wedi bod yn rhy llawdrwm, ac ychwanegodd mai’r ddedfryd y dylen nhw fod wedi’i derbyn oedd gorchymyn cymunedol, a oedd yn cynnwys “oriau sylweddol” o waith di-dâl.