Mae’r Blaid Lafur yn ceisio gorfodi Llywodraeth Prydain i gyhoeddi eu hasesiad o’r effaith y bydd y Credyd Cynhwysol yn ei gael ar incwm pobol.

Mae dadl wedi ei threfnu yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Hydref 17), er mwyn ceisio sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gyhoeddi.

Daw’r weithred hon yn dilyn honiad bod y Gweinidog dros Waith a Phensiynau, Esther McVey, wedi rhybuddio’r Cabinet y byddai pobol ar Gredyd Cynhwysol yn colli £200 y mis.

Mae’r Blaid Lafur yn gobeithio y bydd rhai Ceidwadwyr sy’n pryderu ynghylch y mater yn eu cefnogi yn y bleidlais wedi’r ddadl.

Pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo gan Aelodau Seneddol, bydd yn orfodol i’r llywodraeth gyhoeddi’r asesiad.

“Mae’r Credyd Cynhwysol wedi gwthio gormod o bobol i dlodi, dyled a diflastod,” meddai Margaret Greenwood, llefarydd yr wrthblaid ar Waith a Phensiynau.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fod yn onest am eu cynlluniau a rhoi gwybod i’r cyhoedd ynglŷn â’r effaith y bydd y Credyd Cynhwysol yn ei gael ar bobol a theuluoedd tlawd.”