Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wedi dweud wrth ffrindiau ei fod yn bwriadu ymddiswyddo “yr haf nwsaf”, yn ôl adroddiadau.

Daw’r newyddion ar ôl i adroddiad am honiadau o fwlio staff yn Senedd San Steffan ddod i’r casgliad “fod bwlio a harasio yn digwydd ar y top, ac yn treiddio i lawr” y sefydliad.

Mae adroddiad barnwr yr Uchel Lys, Laura Cox, hefyd yn dweud bod amgylchedd “wenwynig” yn San Steffan, sy’n golygu fod merched yn dioddef aflonyddu rhywiol, a bod hyn yn cael ei wneud yn waeth gan y defnydd o alcohol.

Mae gwleidyddion wedi galw ar John Bercow, a gafodd ei ethol yn Llefarydd yn 2009, i gamu o’r neilltu.

Dywed Cadeirydd Pwyllgor Merched a Chyfartaledd y Senedd, Maria Miller, bod angen “newid yn yr arweinyddiaeth”, a bod hynny’n golygu ymddiswyddiaf John Bercow.