Mae Llywodraeth Prydain wedi penodi panel annibynnol a fydd yn ystyried sut y bydd ffermwyr yng ngwledydd Prydain yn cael ei ariannu wedi Brexit

Bydd yr adolygiad annibynnol yn ystyried y ffordd orau i sicrhau bod y taliadau y mae ffermwyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cael ei rannu’n “deg”.

Bydd anghenion unigol y gwledydd hyn yn cael eu hystyried, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol, amaethyddol a chymdeithasol, ynghyd â nifer y ffermydd a’u maint.

Mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw’n defnyddio Fformiwla Barnett yn unig i rannu’r arian wedi i’r system bresennol o daliadau ddod i ben yn 2022.

Bydd y panel y cael ei arwain gan yr Arlgwydd Bew o Donegore.

“Cefnogi anghenion unigol”

“Bydd yr adolygiad pwysig hwn, sy’n cael ei arwain gan yr Arglwydd Bew, yn archwilio sut y gallwn ni ddarparu nawdd ariannol i ffermwyr a fydd yn cefnogi anghenion unigol Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai Michael Gove.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod nawdd y dyfodol yn cael ei rannu’n deg, ac rydym hefyd yn cadarnhau na fydd y Llywodraeth yn defnyddio Fformiwla Barnett yn unig.

“Yn y cyfamser, mae ein hymrwymiad ariannol yn rhoi mwy o sicrwydd i ffermwyr y Deyrnas Unedig nag unrhyw aelod arall o’r Undeb Ewropeaidd.”