Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn dweud ei bod hi am i ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd fod yn weithred drefnus ar Fawrth 29 y flwyddyn nesaf.

Roedd Angela Merkel yn siarad mewn cynhadledd o allforwyr yr Almaen ddoe (dydd Llun, Hydref 15).

Dywed ei bod yn obeithiol y bydd Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn dod i gytundeb tros Brexit, ond mae’n cyfaddef bod pethau’n edrych “tipyn yn fwy anodd” erbyn hyn.

Mae trafodwyr ac arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi mynnu na allai’r Deyrnas Unedig ddewis y rhannau gorau o aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd a’u cadw wedi Brexit.

“Ddylwn ni ddim adael i’n marchnad sengl, sy’n fantais cystadleuol i ni, gael ei ddinistrio gan ymgais i dynnu’n ôl,” meddai.

Mae’n ychwanegu wedyn bod angen i’r Undeb Ewropeaidd barhau i gynnal trafodaethau pe na bai cytundeb yn cael ei ffurfio yr wythnos hon – ond mae “amser yn gwasgu”, meddai wedyn.