Mae Llefarydd Ty’r Cyffredin, John Bercow, wedi dod dan y lach, yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar achosion honedig o fwlio yn y Senedd yn San Steffan.

Dyna farn cadeirydd Pwyllgor Menywod a Chyfartaledd, Maria Miller.

Mae’n dweud fod yr adroddiad gan y Fonesig Laura Cox QC, a gyhoeddwyd ddoe (dydd Llun, Hydref 15) yn dangos “fod bwlio a harasio yn digwydd ar y top, ac yn treiddio i lawr trwy’r drefn yn San Steffan.

Am hynny, meddai ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, dydi gofyn i John Bercow fod yn gyfrifol am newid y drefn, ddim yn iawn.

“Mae hygrededd Ty’r Cyffredin yn cael ei danseilio gan y mae yma o ymddygiad a diwylliant,” meddai Maria Miller.

“Mae’r adroddiad yn hynod bwerus ac yn glir yn dweud mai gwraidd y broblem yn San Steffan ydi’r ffaith bod y bwlio yn dod o’r top.

“Mae yna honiadau anhygoel yn cael eu gwneud yn erbyn y Llefarydd ei hun,” meddai wedyn, “ac mae o’n un o’r bobol fydd yn edrych ar yr adroddiad hwn,,, Dydi hi ddim yn iawn fod pobol fel fo, sy’n cael eu beirniadu yn yr adroddiad annibynnol hwn, yn mynd i fod yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.”