Mae arweinyddiaeth Theresa May a’i chynlluniau ar gyfer Brexit dan bwysau yn dilyn rhagor o broblemau yn y trafodaethau gyda Brwsel.

Fe fethodd cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab a phrif negodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier a dod i gytundeb. Fe fydd cynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Mercher.

Mae’r anghydfod dros fesurau i atal ffin galed gydag Iwerddon yn golygu bod yna ansicrwydd ynglŷn â’r amserlen ar gyfer dod i gytundeb ar Brexit.

Yn dilyn y cyfarfod ym Mrwsel, dywedodd Michel Barnier “er gwaetha’ ymdrechion dwys” eu bod  wedi methu a dod i gytundeb ar un o agweddau anoddaf y trafodaethau.

Roedd y cyhoeddiad annisgwyl am y cyfarfod rhwng y ddau wedi arwain at ddyfalu y gallai cytundeb gael ei wneud cyn y gynhadledd rhwng arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddydd Mercher.

Ond wedi trafodaethau a barodd ychydig dros awr, daeth i’r amlwg bod yna rwystrau mawr yn parhau gan gynnwys ceisio atal ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon wedi Brexit.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw wedi ymrwymo i wneud cynnydd yn y cyfarfod ddydd Mercher.