Mae Heddlu Glannau Mersi wedi cyhoeddi llun seiclwr sy’n cael ei amau o saethu dyn 27 oed yn farw yn Lerpwl ddydd Sul diwethaf (Hydref 7).

Cafodd Carl Russell, llofrudd oedd wedi’i ryddhau ar drwydded am ddiwrnod, ei saethu’n farw wrth iddo fe a’i bartner adael car yn y ddinas.

Fe ddigwyddodd toc cyn 11.30 y bore.

Ceisiwyd llofruddio Carl Russell unwaith o’r blaen yn 2010.

Roedd wedi bod dan glo yng ngharchar agored Thorn Cross yn Warrington.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Mae dyn 33 oed a dyn 29 oed wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.