Mae’r awdures a newyddiadurwraig Caitlin Moran yn galw ar i ddynion greu eu fersiwn eu hunain o ffeministiaeth.

Dywedodd fod angen i ddynion allu dathlu pwy ydyn nhw heb dynnu grym oddi ar fenywod.

Dywedodd wrth gynulleidfa yng ngŵyl lenyddol Cheltenham, “Holl bwrpas ffeministiaeth yw fod cydraddoldeb wrth ei gwraidd. Mae’r batriarchaeth yn ein cosbi ni oll yn yr un modd.

“Ymhlith dynion, prif achos marwolaeth y rhai dan 50 yw hunanladdiad.

“Mae dynion yn marw am nad ydyn nhw’n gallu siarad am eu teimladau, dydyn nhw ddim yn gallu cyfaddef eu gwendidau ac maen nhw’n teimlo mai dod yn bwerus yw’r unig beth sy’n cyfri, maen nhw’n colli eu plant mewn brwydrau yn ystod ysgariad.”

Dywedodd fod menywod yn “treulio cymaint o amser yn trafod beth yw bod yn ddynes”, ond nad yw dynion yn gwneud yr un fath o ran bod yn ddynion, a bod hyn yn creu “gwacter”.

Ychwanegodd ei bod hi am ysgrifennu llyfr ar y pwnc.