Mae’r arfer o stopio a chwilio unigolion sy’n cael eu hamau o droseddu yn “aneffeithiol” a “hiliol”, yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur, David Lammy.
Rhannodd ei brofiadau o gael ei gyffwrdd a’i aflonyddu gan yr heddlu wrth gerdded drwy ardal Tottenham yn 12 oed, ac yntau’n cael gwybod ei fod yn debyg i unigolyn oedd yn cael ei amau o ymosod a dwyn oddi ar rywun.
Dywedodd fod y “gofid a’r embaras” wedi aros yn ei gof ers hynny.
Daw ei sylwadau ar ôl i adroddiad awgrymu bod pobol groenddu yng Nghymru a Lloegr naw gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio ar amheuaeth o fod â chyffuriau na phobol â chroen gwyn.
Dywedodd fod hynny’n arwydd o “anghyfiawnder hiliol difrifol”.
‘Naratif ffuglennol’
Mewn erthygl yn yr Observer, dywedodd David Lammy fod yr arfer o stopio a chwilio yn galluogi i “ffantasi hiliol” ddigwydd.
“Wrth i ni siarad, fe fydd dynion ifanc, croen gwyn, dosbarth canol yn ysmygu smôc ar gampws prifysgol neu’n cael cyflenwad o gocên yn cyrraedd partïon cinio, ond fydd yr heddlu yn unman.
“Yn hytrach na dibynnu ar yr arfer aneffeithiol sy’n anghyfiawn yn hiliol, rhaid i ni roi’r gorau i’r stigma sy’n perthyn i ddynion croenddu a cheisio datrysiadau deallus, hirdymor i’r problemau sy’n meithrin gweithgarwch troseddol yn y lle cyntaf.”