Mae galwadau ar i Ganghellor San Steffan, Philip Hammond roi terfyn yn ei Gyllideb ar rewi budd-daliadau, wrth i ragolygon ddarogan y gallai teuluoedd incwm isel fod ar eu colled o £200 yn 2019.

Mae Sefydliad Resolution wedi galw am derfyn ar rewi budd-daliadau flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.

Cafodd budd-daliadau eu rhewi am bedair blynedd gan y Canghellor blaenorol, George Osborne yn 2015 – er bod disgwyl iddyn nhw gynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn yn unol â chwyddiant y mis Medi blaenorol.

Mae’r budd-daliadau sydd wedi’u rhewi ers 2016 cynnwys Budd-dal Plant, Credyd Trethi, y Credyd Unffurf, Budd-dal Tai a’r Lwfans Ceisio Gwaith.

Pe bai’r lefel chwyddiant ar hyn o bryd (2.7%) yn parhau’n gyson, fe fydd teuluoedd incwm isel yn colli £210, tra bydd teuluoedd â rhieni sengl yn hanner isa’r lefelau incwm yn colli £260.

Pe bai’r rhagolygon yn gywir, fe fydd budd-daliadau wedi gostwng 6.4% ar y cyfan dros gyfnod o bedair blynedd – 4.6% oedd y rhagolygon.

Mae disgwyl i fwy na 10 miliwn o gartrefi gael eu heffeithio, gan gynnwys 7.3 miliwn o blant, 2.4 miliwn o bobol anabl ac 800,000 o bobol sy’n ceisio gwaith.

Fe fydd y toriadau, yn ôl pob tebyg, yn arbed £4.7bn yn 2019-20 – sydd dipyn uwch na’r rhagolygon o £3.9bn.

‘Wedi ymrwymo i deuluoedd’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, “Rydym wedi ymrwymo i roi’r gefnogaeth i deuluoedd sydd ei hangen arnyn nhw, a dyna pam ein bod yn gwario £90bn y flwyddyn ar fudd-daliadau oedran gwaith, a byddwn yn gwario £28bn yn rhagor nag yr ydyn ni nawr ar bob agwedd ar les erbyn 2022.

“A’r realiti yw fod yna un miliwn yn llai o bobol yn byw mewn tlodi llwyr o’i gymharu â 2010, gan gynnwys 300,000 yn llai o blant.

“Ar yr un pryd, rydym wedi cefnogi rhagor o bobol yn ôl i’w gwaith, wedi cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, wedi dyblu gofal plant rhad ac am ddim ac wedi helpu gweithwyr i gadw mwy o’r arian maen nhw’n ei ennill ar ddiwedd y mis drwy dorri trethi i 31 miliwn o bobol.”

‘Tystiolaeth syfrdanol o dorri addewid’

Ond mae llefarydd Gwaith a Phensiynau’r Blaid Lafur, Margaret Greenwood wedi beirniadu’r ffigurau, gan gyhuddo Prif Weinidog Prydain, Theresa May o “fethu â chadw at ei haddewid o roi terfyn ar lymder”.

“Mae’r adroddiad heddiw’n dangos bod £1.6bn o doriadau eto i ddod, dim ond wrth i’r Torïaid rewi budd-daliadau.”