Mae hyd at £2m o arian y trethdalwr yn cael ei wario ar wasanaethau diogelwch ym mhriodas y Dywysoges Eugenie a Jack Brooksbank yn Windsor heddiw.

Ymysg yr enwogion sydd yng Nghapel St George’s mae’r cantorion pop Robbie Williams, Ellie Goulding, James Blunt a Ricky Martin a’r eiconau ffasiwn Kate Moss a Cara Delevingne.

Yno hefyd mae’r digrifwyr Jack Whitehall, Jimmy Car a Stephen Fry a’r cyn-bêl-droediwr Jamie Redknapp.

Yn gynharach eleni,  cafodd hyd at £4 miliwn o arian y trethdalwr ei wario ar ddiogelu priodas Tywysog Harri a Meghan Markle a £6.35 m oedd y gost ym mhriodas Tywysog William a Kate Middleton.