Mae sïon yn dew y gallai Theresa May wynebu rhagor o ymddiswyddiadau cabinet os fydd hi’n ildio gormod o dir yn y trafodaethau Brexit.

Mae rhai’n dyfalu bod y Prif Weinidog yn nesáu at daro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac mae ei Phrif Chwip, Julian Smith, yn mynnu bod gweinidogion yn hapus â’i strategaeth.

Ond, mae’n debyg bod Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, a’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, Penny Mordaunt, yn hynod bryderus am y trafodaethau.

Ac mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey, wedi dweud yn blwmp ac yn blaen ei bod yn gwrthwynebu cynlluniau Brexit Theresa May.

Gogledd Iwerddon

Mi wnaeth ffigurau amlwg yn y cabinet ymgynnull ddydd Iau (Hydref 11) i drafod y diweddaraf ar Brexit, ac mae’n debyg mai Gogledd Iwerddon oedd un o’r prif bynciau trafod.

Er mwyn rhwystro ffin galed ar yr Ynys Werdd yn dilyn Brexit, mae’n debygol bydd yn rhaid i Ogledd Iwerddon aros yn y farchnad sengl am gyfnod a’r undeb tollau.

Ac er mwyn rhwystro ffin rhag codi rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig, mae Theresa May yn mynnu byddai’n rhaid i wledydd Prydain oll aros dan y trefniadau yma am gyfnod.

Mae’n debyg y gwnaeth nifer o weinidogion leisio’u gwrthwynebiad ddoe, gan fod ansicrwydd ynglŷn â pha mor hir byddai’r cyfnod yma yn para.