Mae mwy na 300 o staff o fewn y BBC – yn ddynion a merched – wedi cael codiad yn eu cyflog yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ôl iddyn nhw godi cwestiynau ynghylch yr hyn maen nhw’n eu hennill.

Yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law papur newydd The Times, mae’r BBC wedi derbyn 1,047 o ymholiadau ynglŷn â chyflog gweithwyr ers mis Gorffennaf 2017.

Yn ystod y mis hwnnw y cafodd ffigyrau eu cyhoeddi gan y BBC a oedd yn nodi pa unigolion sy’n ennill y cyflog uchaf o fewn y gorfforaeth. Arweiniodd hyn at ffrae fawr gan fod rhai merched yn ennill llai na dynion â’r un swydd.

O’r holl ymholiadau sydd wedi’u gwneud ers hynny, mae 316 o bobol wedi derbyn codiad cyflog, tra bo 144 yn dal i aros am ddatrysiad.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn adnewyddu telerau ac amodau staff, ac wedi annog pobol i wneud ymholiadau ynghylch eu cyflogau,” meddai llefarydd ar ran y BBC.

“Fel yr ydym wedi dweud o’r blaen, mewn rhai achosion mae hyn wedi ein galluogi i wneud newidiadau ar gyfer dynion a merched.”

Mae’r BBC eisoes wedi dweud bod cyflogau rhai unigolion gwrywaidd wedi cael eu lleihau, gan gynnwys cyflogau’r ddau ddarlledwr o Gymru, John Humphrys a Huw Edwards.