Mae pysgotwyr gwledydd Prydain yn dweud ei bod hi’n debygol iawn y bydd ‘brwydrau’ rhyngddyn nhw a physgotwyr o wledydd eraill yn parhau wedi Brexit.

Ym mis Awst eleni, fe ymosododd dros dri deg o gychod Ffrengig ar bysgotwyr o wledydd Prydeinig oddi ar arfordir Normandi gyda cherrig a bomiau mwg.

Mae’r ffrae yn dal i rygnu ymlaen ynglyn â’r hawl i bysgota am sgalops yn y Baie de Seine.

Yn wahanol i bysgotwyr Ffrainc, sy’n cael eu gwahardd o bysgota yno rhwng Mai 15 a Hydref 1, mae rheolau eraill yn dweud fod hawl gan bysgotwyr Prydeinig i weithio yno trwy gydol y flwyddyn.