Al cael eu beirniadu adeg priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle, mae Cyngor Windsor unwaith eto wedi cynghori pobol ddigartref i gadw draw o rai rhannau o’r ddinas ar ddiwrnod priodas y Dywysoges Eugenie ddiwedd yr wythnos.

Bydd merch y Tywysog Andrew yn priodi Jack Brooksbank ddydd Gwener (Hydref 12), ac mae disgwyl i’r osgordd briodasol deithio o amgylch yr ardal yn dilyn y seremoni yng nghastell Windsor.

Fis Mai pan briododd y Tywysog Harry, fe fu rhaid i’r cyngor gefnu ar eu cynlluniau.

Ond maen nhw’n mynnu nad yw pobol ddigartref wedi cael cais i adael y strydoedd yn gyfan gwbwl.

Bydd Brenhines Loegr yn croesawu gwesteion i’r castell ar ôl y briodas.

Mae gwrthwynebwyr wedi beirniadu’r gost o £2m am swyddogion diogelwch.