Prifysgol Bryste yw’r sefydliad addysg uwch cyntaf yng ngwledydd Prydain i lansio ‘cwrs hapusrwydd’ ar gyfer myfyrwyr, gyda’r nod o’u helpu i feithrin technegau ar gyfer byw bywyd mwy cyflawn.

Does dim rhaid i’r un stiwdant fynd ar y cwrs deg wythnos sy’n dechrau y tymor hwn ac sy’n tynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.

Mae’n edrych ar yr hyn ydi hapusrwydd; sut i ymgyrraedd ato; ac yn dysgu arferion pendant i fyfyrwyr geisio eu rhoi ar waith yn eu bywydau bob dydd. Ac fe ddaw ar adeg pan mae yna bryder cynyddol ynglyn â iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

Yn ddiweddar, mae 94% o brifysgolion wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y bobol sy’n ceisio cael mynediad at wasanaethau cymorth.