Mae’r Uchel Lys yn Llundain wedi atal her gyfreithiol dorfol yn erbyn Google, yn dilyn honiadau bod y cwmni wedi casglu gwybodaeth breifat dros 4 miliwn o ddefnyddwyr iPhone.

Roedd y grŵp ymgyrchu, ‘Google You Owe Us’, sy’n cael ei arwain gan Richard Lloyd, yn ceisio dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cwmni rhyngwladol.

Mae Google yn cael ei gyhuddo o dorri rheolau preifatrwydd ar Apple iPhone rhwng mis Awst 2011 a Chwefror 2012, gan gasglu data preifat er mwyn categoreiddio pobol ar gyfer hysbysebion.

Roedd Richard Lloyd a’i grŵp wedi ceisio ennill o leiaf £1bn mewn iawndal ar gyfer 4.4m o ddefnyddwyr yng ngwledydd Prydain.

Ond roedd cyfreithwyr Google yn dadlau na ddylai’r her gyfreithiol fynd yn ei blaen, gan nad oes tystiolaeth bod y cwmni wedi trosglwyddo’r wybodaeth i gwmni arall.

Maen nhw hefyd wedi dweud nad yw’n bosib adnabod y defnyddwyr hynny a gafodd eu heffeithio.