Mae awdur y gyfres deledu Father Ted, Graham Linehan wedi cael rhybudd ar lafar gan yr heddlu am sylwadau gwrth-drawsryweddol ar wefan gymdeithasol Twitter.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi gofyn iddo beidio â chysylltu â Stephanie Hayden, 45, yn dilyn ffrae ar y wefan.

Aeth hi at yr heddlu a chwyno ar ôl i’r awdur ei galw hi’n “fe”, a chyfeirio ati wrth ei henwau blaenorol, Tony a Steven gan ddweud nad yw’n “parchu rhagenwau perthynnol gwreig-gasawyr, stelcwyr nac aflonyddwyr”, gan ychwanegu bod “Tony yn bob un o’r tri”.

Mae hi hefyd yn dwyn achos yn ei erbyn yn yr Uchel Lys.

Dywedodd Stephanie Hayden nad yw hi’n gwerthfawrogi “cyfeiriad ataf fel dyn a rhoi fy enw mewn dyfynodau er mwyn awgrymu nad yw’n ddilys”.