Mae troseddau rhyw ac ymosodiadau treisgar ar gynnydd ar rwydwaith drenau’r Deyrnas Unedig, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Cafodd 61,159 trosedd eu cofnodi gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) yn 2017/18, sy’n gynnydd o 17% o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.

Ac ymhlith y troseddau rheiny roedd dros ddau fil o droseddau rhyw a dros ddeg mil o droseddau treisgar.

Gwelodd y rhain gynnydd, ynghyd â throseddau â chyllyll, lladrad o beiriannau nwyddau, tannau bwriadol, tresbasu, a lladrad gwifrau.

Targedu

“Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn cael eich targedu gan droseddwr ar y rhwydwaith drenau yn parhau’n isel,” meddai Paul Crowther, Prif Gwnstabl o’r BTP.

“Fodd bynnag, yn dilyn cyfnod hir o gwymp, mae nifer y troseddau wedi tyfu mewn sawl maes.”

Troseddau rheilffyrdd

Yn 2017/18 roedd yna…

  • 2,472 o droseddau rhyw – cynnydd 16%
  • 11,711 o drosedd treisgar – cynnydd 26%
  • 206 o droseddau â chyllyll – cynnydd 46%
  • 553 o ladradau – cynnydd 53%
  • 143 tân difrifol – cynnydd 93%
  • 158 lladrad gwifrau – cynnydd 86%
  • 240 lladrad o beiriannau nwyddau – cynnydd 21%