Mae cofeb i 18 o filwyr a gafodd eu llofruddio yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael ei fandaleiddio unwaith yn rhagor.

Mae torchau, croesau a blodau wedi’u taflu a’u malu dros nos yn Narrow Water ger Warrenpoint yn swydd Down.

Mae’r gofeb yn nodi’r fan lle cafodd confoi o filwyr Prydain eu lladd gan ddwy fom yr IRA ym mis Awst 1979.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn dweud fod y difrod diweddara’ hwn wedi’i gyflawni, mwy na thebyg, rhwng 7yh nos Fercher (Hydref 3) a 7.30yb heddiw (dydd Iau, Hydref 4), ac maen nhw’n chwilio am dystion a allai fwrw unrhyw oleuni ar yr amgylchiadau.

Fe ddaw’r digwyddiad hwn wedi i gefnogwyr pêl-droed gael eu beio am chwalu’r gofeb wrth adael Warrenpoint ar drip i Belffast.

Ond mae clwb pêl-droed Cliftonville yn Belffast, sydd â’i gefnogwyr yn dod o gefndir gweriniaethol, yn mynnu nad yw’n ymwybodol o unrhyw achos o fandaliaeth dan law eu cefnogwyr.