Mae dau weithiwr wedi’u canfod yn farw mewn ffatri prosesu cywion ieir a dofednod yn swydd Norfolk.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Banham Poultry yn Attleborough yn oriau mân bore Iau (Hydref 4), ac fe ddaethon nhw o hyd i ddau gontractiwr lladd pla yn farw.

Roedd cyrff y dynion, un yn ei 30au a’r llall yn ei 40au, ger y ffatri, a does neb arall wedi’u hanafu, meddai llefarydd ar ran Heddlu Norfolk.