Gwasanaeth cudd milwrol Rwsia, y GRU, sy’n gyfrifol am y gyfres o ymosodiadau seiber ledled y byd, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi cyhuddo’r GRU o arwain ymgyrch o ymosodiadau “rhyfygus a gwael” sydd wedi targedu sefydliadau a busnesau, ynghyd â’r cyfryngau a’r chwaraeon.

Daw hyn ar ôl i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) gadarnhau bod yr ymosodwyr wedi cael eu cadarnhau’n aelodau o’r GRU.

Ymhlith yr ymosodiadau sydd wedi’u cynnal dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau (WADA), systemau trafnidiaeth yn yr Wcráin a’r etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau yn 2016.

“Tanseilio ein sefydlogrwydd”

“Mae’r patrwm hwn o ymddygiad [gan y GRU] yn dangos eu hawydd i weithredu heb unrhyw gydnabyddiaeth o gyfraith ryngwladol, gan wneud hynny yn ddigerydd a heb sylw beth yw’r goblygiadau,” meddai Jeremy Hunt.

“Mae ein neges yn glir: ar y cyd â’n cynghreiriaid, rydym am ddwyn i’r amlwg ac ymateb i ymgais y GRU i danseilio ein sefydlogrwydd rhyngwladol.”