Mae dyn 22 oed wedi cyfaddef lladd ei fam.

Mae Thomas Fisher wedi pledio’n euog i ddynladdiad o ganlyniad i beidio bod yn gyfrifol am ei weithredoedd, mewn gwrandaid yn Llys y Goron Lewes heddiw (dydd Mawrth, Hydref 2).

Fe ganfuwyd Fiona Fisher, 51, yn farw yn eu cartref yn Crowborough, Dwyrain Sussex, ar Ebrill 27.

Mae Thomas Fisher hefyd wedi cyfaddef i dwyll ar ol defnyddio cerdyn credyd ei fam heb ei chaniatâd, ac o yrru tra’r oedd wedi ei wahardd.