Mae dyn wedi cael ei saethu a’i anafu gan yr heddlu yn ystod cyrch ben bore lle cafodd chwech o bobol eu harestio am droseddau yn ymwneud ag arfau.

Fe orfododd plismyn eu ffordd i mewn i gyfeiriad yn Edgbaston, Birmingham, tua 5yb heddiw (dydd Mawrth, Hydref 2).

Mae’r dyn a gafodd eu saethu yn ystod y cyrch wedi cael ei gludo i’r ysbyty.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod pedwar dyn – 21, 35, 45 a 52 oed – a dwy fenyw, 59 a 64 oed, wedi cael eu harestio.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.