“Ddylwn ni ddim dychryn ein hunain” wrth edrych at ddyfodol tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Dyna ddywedodd y cyn-ysgrifennydd Brexit, David Davis, wrth annerch digwyddiad ymylol yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr heddiw.

“Mae ‘na risg go iawn, y gallwn ddychryn ein hunain yn llwyr,” meddai. “Ond does dim angen gwneud hynny. Gallwn wneud cynlluniau ymarferol.

“Bydd yna niwed go iawn, yn syth, ac o bob cyfeiriad. Ond bydd y caledi yn fyrhoedlog ac yn dod i ben, ar y cyfan, o fewn misoedd.”

Ceryddu’r Canghellor

Wrth draddodi ei araith fe wnaeth David Davis hefyd feirniadu’r Canghellor, Philip Hammond, a’i agwedd tuag at Brexit.

Mae’r cyn-weinidog yn cyhuddo’r Canghellor o ddefnyddio rhagolygon “camarweiniol” wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, ac wedi ei feirniadu am godi problemau yn ystod trafodaethau ag Ewrop.