Mae Philip Hammond wedi beirniadu Boris Johnson yn hallt gan alw cynigion Brexit y cyn-Ysgrifennydd Tramor yn “ffantasi”.

Ar ail ddiwrnod cynhadledd y Ceidwadwyr, mae’r Canghellor wedi dweud nad yw’r cyn-weinidog yn medru “amgyffred â manylion” cymhleth Brexit.

Ac mewn cyfweliad â phapur newydd The Daily Mail mae Philip Hammond yn dweud nad yw’n disgwyl i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog, gan ddweud ei fod methu â mynd i’r afael â “gwleidyddiaeth oedolion”.

Daw’r sylwadau wedi i Boris Johnson alw cynlluniau Brexit y Prif Weinidog, Theresa May, yn “afresymol”, ac wedi iddo gynnig gweledigaeth amgen.

Cynhadledd

Ymddiswyddodd Boris Johnson o’r cabinet ym mis Gorffennaf fel protest yn erbyn cynlluniau Brexit y Prif Weinidog, ac yn sgil hynny fydd e ddim yn siarad yn y gynhadledd.

Er hynny, mae disgwyl iddo draddodi araith mewn digwyddiad ymylol ar ddydd Mawrth (Hydref 2) ac mae sïon yn dew y bydd yn defnyddio’r cyfle i ymosod unwaith eto ar gynlluniau Theresa May.