Cafodd dyn ei drywanu ar drên tanddaearol yn Llundain fore heddiw (dydd Sul, Medi 30).

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 12.50 rhwng Stratford a Mile End ar y llinell ganolog, meddai’r awdurdodau.

Cafodd y dyn driniaeth yn y fan a’r lle, ond does dim lle i gredu bod ei fywyd mewn perygl.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun camera cylch-cyfyng o’r dyn maen nhw’n awyddus i siarad â fe mewn perthynas â’r digwyddiad.