Mae cyn-Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson wedi lladd ar gynlluniau Brexit Prif Weinidog Prydain, Theresa May gan ddweud eu bod yn “orffwyll” ac yn “hurt”.

Daeth ei sylwadau wrth i Theresa May gyhoeddi ei chynlluniau, sy’n cynnwys cyfyngu ar hawl pobol o dramor i brynu tai, yn ogystal â gŵyl genedlaethol yn 2022, pan fydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.

Wrth i’r gynhadledd fynd rhagddi, dywedodd Boris Johnson ei fod e, yn wahanol i Theresa May, wedi ymgyrchu dros Brexit.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd y dylid codi pont rhwng Prydain ac Iwerddon a gohirio cynllun trydaneiddio’r rheilffordd – HS2 – er mwyn canolbwyntio ar gyswllt cyflymdra uchel â gogledd Lloegr.

Ychwanegodd fod cynllun Chequers Theresa May yn “hollol hurt”, gan awgrymu y gallai yntau sicrhau cytundeb gwell i Brydain ac nad oedd yr hyn sy’n cael ei gytuno ar hyn o bryd yr hyn yr oedd pleidleiswyr am ei gael wrth bleidleisio yn 2016.

‘Nid Brexit yn unig sy’n bwysig’

Wrth amddiffyn ei safbwynt yn yr un papur, dywedodd Theresa May fod mwy i’w gwaith na Brexit yn unig.

Amlinellodd ei chynlluniau i sicrhau bod busnesau a phobol nad ydyn nhw’n talu trethi yn wynebu cost ychwanegol o rhwng 1% a 3% wrth brynu eiddo, a’r arian ychwanegol hwnnw’n mynd at bobol ddigartref.

Dywedodd fod yna “waith tymor hir i’w wneud”.

“Nid Brexit yn unig sy’n bwysig, mae’r agenda gartref yn bwysig hefyd.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cyrraedd moment bwysig a hanesyddol i’r DU. Mae yna gyfleoedd go iawn i’r DU y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Gŵyl 2021

Wrth amlinellu’r cynllun i gynnal gŵyl genedlaethol yn 2021, dywedodd mai’r bwriad yw “dangos yr hyn sy’n gwneud ein gwlad yn wych heddiw”.

“Rydym am gynnal yr ysbryd ar genhedlaeth newydd, dathlu amrywiaeth a thalent ein cenedl, a nodi’r foment hon o adnewyddu cenedlaethol gyda dathliad unwaith mewn cenhedlaeth.”

Ategodd hi mewn cyfweliad â’r Sun fod “dim cytundeb yn gwell na chytundeb gwael”.