Doedd dim cwynion yn erbyn cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond yn sgil ei ymddygiad rhywiol cyn mis Ionawr eleni, yn ôl Llywodraeth yr Alban.

Daw’r sylwadau yn dilyn awgrym fod ymchwiliad wedi’i gynnal i un o’r cwynion yn 2013.

Cafodd dau o honiadau eu gwneud yn ei erbyn ym mis Ionawr, ac roedd e’n gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le ar ôl cael clywed amdanyn nhw ddeufis yn ddiweddarach.

Ymddiswyddodd e yn sgil yr honiadau, ond mae e’n dwyn achos yn erbyn Llywodraeth yr Alban er mwyn brwydro yn erbyn yr honiadau yn ei erbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod yn “hyderus” iddyn nhw gymryd y camau cywir wrth ymchwilio i’r honiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Alex Salmond na fyddai’n trafod yr achos y tu allan i’r llys, ond mai diben yr achos yw profi fod y broses yn erbyn y cyn-Brif Weinidog yn “anghyfreithlon”.