Mae defnyddwyr y wefan gymdeithasol Facebook wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus ar ôl i’r cwmni beryglu manylion preifat hyd at 50 miliwn o bobol.

Daeth y cwmni o hyd i’r nam ddydd Mawrth, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan ddydd Gwener.

Mae lle i gredu bod y sawl oedd yn gyfrifol wedi manteisio ar raglen o fewn y wefan sy’n galluogi defnyddwyr i weld sut mae eu proffil yn edrych i bobol eraill.

Llwyddodd yr hacwyr i ddefnyddio rhaglen sy’n golygu nad oes angen i ddefnyddwyr deipio cyfrinair bob tro maen nhw’n mewngofnodi i Facebook.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un yng ngwledydd Prydain ei effeithio, ond mae cyfrifon wedi cael eu hailosod fel rhagofal.

Mae Canolfan Diogelwch Seibr Genedlaethol y DU wedi rhybuddio defnyddwyr gwefannau cymdeithasol, e-bost a ffonau symudol i fod yn wyliadwrus.

Dyma’r diweddaraf mewn rhes hir o broblemau diogelwch gyda chwmni Facebook, ond mae’r perchennog Mark Zuckerberg wedi gwrthod cyfarfod ag Aelodau Seneddol yn San Steffan hyd yn hyn.