Mae dyn sydd dan amheuaeth o gyflawni ymosodiad Salisbury yn uwch-swyddog â chudd wasanaeth Rwsia, yn ôl grŵp ar-lein.

Ar ddechrau’r mis, gwnaeth heddlu sy’n ymchwilio i’r mater enwi dau ddyn yr oedden nhw’n eu hamau, sef Alexander Petrov a Ruslan Boshirov.

A daeth i’r amlwg bod yna ddigon o dystiolaeth i’w cyhuddo o gynllwynio i lofruddio.

Bellach, yn sgil rhywfaint o ymchwil, mae grŵp Bellingcat wedi dod i’r casgliad mai enw ffug yw Ruslan Boshirov ac mai ei enw go iawn yw Anatoliy Chepiga.

Hefyd, mae’r grŵp yn credu ei fod yn gyrnol o fewn y GRU (cudd wasanaeth Rwsia) a’i fod wedi derbyn gwobr ‘Arwr tros Ffederasiwn Rwsia’ gan arlywydd y wlad, Vladimir Putin.

Ymatebion

Dyw’r Swyddfa Gartref heb wadu na chadarnhau’r adroddiadau, tra bod llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Dramor Rwsia wedi eu wfftio.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ninas Salisbury ym mis Mawrth, a chafodd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, eu gwenwyno yn ei sgil.