Mae cyfrifiadur a gafodd ei adeiladu yn yr 1970au gan y cwmni Apple wedi cael ei werthu am $375,000 (£284,000).

Mae’r Apple-1 yn cael ei ystyried yn un o’r cyfrifiaduron hynny a wnaeth gychwyn ‘Oes y Cyfrifiadur’, ac mae’n un o ddim ond 60 sy’n dal mewn bodolaeth – ac yn un o’r 16 sy’n dal i weithio.

Cafodd ei werthu mewn arwerthiant fyw yn yr Unol Daleithiau ddoe (dydd Mawrth, Medi 26), gan ddyn busnes sy’n awyddus i aros yn ddienw.

Steve Jobs a Steve Wozinak fu’n gyfrifol am adeiladu’r cyfrifiadur yn 1976 a 1977, a’i werth ar y pryd oedd $700.

Roedd y perchennog gwreiddiol wedi cynnig ei werthu yn ôl i Steve Wozinak yn 1982 am $10,000, ond ni ddaeth dim ohono.