Mae mwy o ddynion yn cyrraedd eu cant oed yng ngwledydd Prydain, yn ôl ystadegau sy’n cael eu rhyddhau heddiw.

Mae’r ffigyrau yn dangos fod y gagendor rhwng nifer y merched a’r dynion sy’n byw i fod yn gant oed, yn lleihau.

Yn 2002, roedd 8.22 gwraig gant oed am bob un dyn oedd yn cyrraedd yr oed hwnnw. Y llynedd, roedd 4.85 o ferched am bob dyn. Mae hefyd mwy o ddynion yn byw dros eu 90 oed.

Yn 2002, roedd yna 3.07 o wragedd am bob dyn rhwng 90 a 94 oed, o gymharu â 2.05 yn 2017.

Tra bod disgwyl i fenywod fyw yn i oed mwy na dynion, ar gyfartaledd, mae dynion yn dal i fyny ac yn byw yn hirach, meddai ystadegau’r ONS.

Ond wedi dweud hynny, mae cyfanswm y bobol dros eu cant oed yng ngwledydd Prydain wedi gostwng rhwng 2016 a 107, o 14,510 i 14,430.