Fe gafodd £500m ei ddwyn o gyfrifon banc y Deyrnas Unedig yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Ac o’r swm yma, fe.gafodd £145m ei ddwyn trwy dwyll ‘taliad â chaniatâd’ (APP) lle mae dyn yn talu am rywbeth sydd ddim yn bodoli.  

Gan amlaf, mae pobol sydd wedi’u targedu gan dwyll ariannol yn derbyn ad-daliad llawn, ond dyw hynny ddim yn wir yn achos twyll APP.

O’r £145m a gafodd ei ddwyn eleni, dim ond £30.9m sydd wedi ei ad-dalu i gwsmeriaid.

“Bygythiad”

Yn ôl Katy Worobec, un o gyfarwyddwyr cymdeithas fasnach UK Finance, mae  twyll ariannol yn peri “bygythiad mawr” i’r Deyrnas Unedig.

“Mae’r troseddwyr sy’n gyfrifol am dwyll yn targedu pobol sy’n fregus weithiau, ond nid bob amser,” meddai, “ac mae ffrwyth eu llafur yn mynd at ariannu brawychiaeth a rhagor o droseddau.”