Mae aelod o gabinet cysgodol y Blaid Lafur wedi beirniadu Theresa May am ei hymateb i drychineb Tŵr Grenfell.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn Lerpwl, mae John Healey wedi galw ar y Prif Weinidog i roi’r gorau i’r “llusgo traed”.

Mae hefyd wedi cwestiynu pam bod bron i hanner o gyn-breswylwyr y bloc o fflatiau heb gartrefi parhaol, a pham bod “cladin marwol” ar 400 o flociau o hyd.

Bu farw 72 o bobol pan aeth fflatiau Tŵr Grenfell ar dân yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.

“Llusgo traed”

“Os taw dy gartref di byddai hyn, a fyddet wedi cymryd mor hir i’w drwsio?” meddai. “Os taw dyma le oedd dy deulu yn cysgu bob nos, a fyddet ti’n gwneud dim am 15 mis?”

“Beth am anfon neges at Theresa May – rhaid i dy Lywodraeth stopio llusgo traed a gweithredu. Cer ati i gael cartref newydd ar gyfer y goroeswyr.”

Ychwanegodd  bod angen i’r sy’n gyfrifol gael eu dwyn o flaen eu gwell, a bod angen cyflwyno’r mesurau sydd eu hangen er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.