Fe wnaeth rifyn olaf y gyfres ddrama, Bodyguard, ddenu 11 miliwn o wylwyr neithiwr (dydd Sul, Medi 23), gyda’r rhaglen yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd ar y BBC ers degawd.

Mae’r gyfres yn cael ei chyfrif yr un mor llwyddiannus â Downtown Abbey, a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 2011 ac a ddenodd 10.6m o wylwyr ar un adeg.

Fe ddenodd y rhifyn olaf o Bodyguard 10.4m o wylwyr ar gyfartaledd, gan gyrraedd yr uchafbwynt o 11m cyn ei diwedd – sy’n cyfrif am 47.9% o gyfran y gwylwyr.

Y rhaglen, sy’n cynnwys yr actorion Richard Madden a Keeley Hawes, yw’r un fwyaf poblogaidd ar y BBC ers rhifyn y Nadolig o Doctor Who yn 2008, a ddenodd 11.7m o wylwyr.

Ar wahân i gystadleuaeth Cwpan y Byd, mae Bodyguard hefyd wedi llwyddo i ddod yn rhaglen fwyaf poblogaidd y flwyddyn.

Er bod y gyfres ar ei hyd wedi derbyn adolygiadau cymysg yn y papurau newydd, mae bron pob adolygwr yn gytûn ei fod yn rhaglen sy’n werth ei gwylio.

Mae awdur y gyfres, Jed Mercurio, hefyd wedi awgrymu y bydd yna ail gyfres, a hynny ar ôl iddo ddiolch am y “derbyniad ffantastig” y mae’r rhaglen wedi’i derbyn.