Fe fydd ymchwiliad yn dechrau heddiw i’r sgandal gwaed wedi’i heintio.

Bu farw o leiaf 2,400 o bobol, tua 70 yng Nghymru, a oedd wedi derbyn cynnyrch gwaed oedd wedi’i heintio gyda hepatitis C a HIV, yn y 1970au a’r 1980au.

Fe fydd yr ymchwiliad yn edrych ar y driniaeth a gafodd miloedd o bobol yn ystod y cyfnod hwnnw a’r effaith a gafodd ar eu teuluoedd.

Mae cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Brian Lanstaff, eisoes wedi dweud y bydd yr ymchwiliad yn ceisio darganfod a oedd ymdrech i gelu’r sgandal ac mae wedi rhoi addewid y bydd “ystyriaeth fanwl i’r dystiolaeth”.

Dywedodd Des Collins o gwmni cyfreithwyr Collins Solicitors, sy’n cynrychioli mwy na 800 o’r dioddefwyr, eu teuluoedd ac wyth grŵp ymgyrchu, bod yr ymchwiliad sy’n dechrau yn Llundain heddiw (dydd Llun, 24 Medi) yn hynod o bwysig.

“Mae hwn yn ddiwrnod nad oedd y rhai sydd wedi’u heffeithio, eu teuluoedd a grwpiau ymgyrchu yn credu y byddan nhw’n ei weld.”

Ychwanegodd y byddai’r rhai oedd yn gyfrifol – o fewn y llywodraeth a’r cwmnïau fferyllol, yn cael eu dwyn i gyfrif.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad barhau am o leiaf dwy flynedd a hanner.