Fe fydd aelodau yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn pleidleisio ar gynnig Brexit sy’n dweud os na fydd etholiad cyffredinol, fe fydd yn “cefnogi pob opsiwn arall”, gan gynnwys ymgyrchu am “bleidlais y bobl” ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn wedi dweud eisoes y byddai’n well ganddo ddatrys y broblem drwy gynnal etholiad cyffredinol. Ond mae wedi derbyn y byddai’n glynu wrth unrhyw benderfyniad a ddaw o bleidlais y gynhadledd.

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod yn y gynhadledd yn Lerpwl ddydd Mawrth. Fe fu ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid Keir Starmer a rhai aelodau o’r undebau llafur yn trafod geiriad y cynnig mewn cyfarfod a barodd rai oriau nos Sul (23 Medi).

Cynyddu mae’r pwysau ar arweinydd y blaid Lafur i gefnogi refferendwm o’r fath.

Ar drothwy’r gynhadledd roedd arolwg barn o aelodau Llafur yn awgrymu bod 86% ohonyn nhw o blaid refferendwm, ac y byddai 90% yn pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Hyd yma, mae’r arweinydd wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu refferendwm.

Carwyn Jones

Fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn annerch y gynhadledd heddiw. Dyma fydd ei gynhadledd olaf cyn iddo gamu o’r swydd.