Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn ôl comisiynydd heddlu yng ngogledd Lloegr.

Pryder mawr y Fonesig Vera Baird, comisiynydd heddlu Northumbria, yw y bydd Brexit di-gytundeb yn golygu gadael system wybodaeth Schengen – sy’n rhannu data am ddiogelwch ymysg ei aelodau.

“Pe bai hynny’n digwydd, fe fydden ni’n ôl yng nghyfnod yr Anglo Sacsoniaid,” meddai.

“Fydden ni ddim yn cael gwybod am ymladdwyr tramor sydd yn ein mysg nac am droseddwyr sy’n teithio o un wlad i’r llall.”

Rhybuddiodd nad oedd unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sy’n rhan o system wybodaeth Schengen.